Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwesty yn brydferth odiaeth y diwrnod. hwnnw, ac wrth ei ddrws safai gwraig ieuanc hardd, a baban yn ei breichiau, ac wrth ei hochr ddau fachgennyn iach a llon. Yn y man gwelwyd mintai fawr,—camelod, a meirch, a dynion,—yn cludo llwythi o nwyddau a thrysorau gwerthfawr, yn dyfod o gyfeiriad y dwyrain, ac ar flaen y fintai marchogai gŵr gwelw ei wedd, ac ôl pryder a gofal yn ddwfn arno. Y Tywysog Deva ydoedd. O gyfeiriad y gorllewin gwelid mintai arall, byddin enfawr, yn nesáu,—can mil o wyr arfog, rhai ar feirch a rhai ar draed, a'u harfogaeth yn fflachio ac yn disgleirio ym mhelydrau'r haul. Ar eu blaen marchogai'r Tywysog Sanka.

Wedi cyfarch ei gilydd, dechreuasant holi beth a ddigwyddasai iddynt y deng mlynedd a aeth heibio. Dywedodd Deva: "Gweithiais yn ddi—orffwys, ddydd a nos, a heddiw myfi ydyw'r gwr cyfoethocaf ar y ddaear."

"Edrych," meddai Sanka, "ar y fyddin a gesglais i; bu rhaid imi frwydro yn galed i'w chael, a darostwng llawer teyrnas."

"Ie," atebodd Deva; "ond cyfoeth ydyw'r peth mwyaf yn y byd wedi'r cyfan, oherwydd