ni byddai raid imi ond cynnig mwy o arian i dy filwyr nag yr wyt ti yn ei roddi iddynt, na ddeuent drosodd ataf fi ar unwaith."
"Paid a drysu," atebodd Sanka yn gyffrous. "Pe dywedwn i ond y gair, ymosodai fy milwyr ar dy gludwyr di, ac fe'i lladdent yn y fan, ac yna byddai dy holl gyfoeth yn eiddo i mi cyn pen pum munud."
Wedi iddynt ymddadlau fel hyn am beth amser, cofiasant am eu brawd ieuengaf. "Pa le mae Amanda, tybed? Beth ddarganfyddodd ef ydyw'r peth mwyaf yn y byd?" Ar hynny daeth gŵr ieuanc hardd, heinyf, iach, allan o ddrws y gwesty. Dillad gweithiwr oedd amdano, ond edrychai yn hapus a bodlon ryfeddol.
"Amanda ydyw!" meddai'r ddau frawd mewn syndod. "Wel, Amanda, dywed wrthym a lwyddaist i ddarganfod y peth mwyaf yn y byd?"
"Do," meddai Amanda, gyda gwên ar ei wyneb. "Cychwynais tua Siam, ond troais yn fy ôl. Dyma fy ngwraig a'm tri phlentyn. Y peth mwyaf yn y byd," meddai, yn araf a phwyllog—"y peth mwyaf yn y byd ydyw— cariad."