Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddo a fuasai cael unrhyw beth i osod bri arno ei hun yng ngolwg ei ddeiliaid.

"Ond pa le y mae eliffant gwyn i'w gael?" gofynnodd; "tywyll ydyw lliw yr holl eliffantiaid a welais i erioed."

Atebodd y crochenydd cyfrwys: "Mi wn i am olchwr heb ei fath. Yr wyf yn hollol sicr y medrai ef olchi un o'r eliffantiaid tywyll nes byddai'n berffaith wyn, ond i chwi orchymyn hynny iddo."

Rhoddodd y brenin orchymyn i ddwyn y golchwr ger ei fron. Meddai wrtho: "Mae arnaf eisiau eliffant gwyn, a deallaf y gelli di olchi un du yn berffaith wyn. Y crochenydd sydd wedi sôn amdanat wrthyf. Dechrau ar dy waith ar unwaith."

Deallodd y golchwr ar unwaith mai cynllun oedd hwn o eiddo'r crochenydd i'w ddinistrio, oherwydd gwyddai mor gen- figenllyd ydoedd. Ofnai, modd bynnag, ddweud wrth y brenin nad oedd bosibl golchi eliffant du yn wyn. Ond yr oedd ganddo feddwl cyflym, ac meddai:

"Eich Mawrhydi, bydd yn fraint i mi gael gwneud yr hyn a geisiwch; ond i wneud y gwaith yn llwyddiannus, rhaid imi gael