Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llestr digon mawr i roi yr eliffant ynddo. A fydd i'ch Mawrhydi, gan hynny, roddi gorchymyn i'r crochenydd i wneud padell fawr,—padell ddigon mawr i'r eliffant fynd i mewn iddi i ganol y dŵr."

Anfonodd y brenin y gorchymyn i'r crochenydd. Gwelodd yntau ei fod wedi ei ddal, ond nid oedd wiw anufuddhau. Mynnodd lwythi o glai, a gwnaeth badell ddigon mawr i ddal eliffant. Aed â'r llestr at y golchwr: llanwodd hwnnw ef â dŵr, ond y foment y rhoddodd yr eliffant ei draed mawr a thrwm y tu mewn i'r badell, torrodd y llestr yn ddarnau mân.

"Rhaid iti wneud llestr arall," meddai'r brenin wrtho. Ceisiodd drachefn, ond digwyddodd yr un peth. Gorfodai y brenin ef i ddal ymlaen, ond methiant a fu pob cais. O'r diwedd, wedi treio drosodd a throsodd, collodd yr holl eiddo oedd ganddo, a suddodd i'r tlodi a'r gwarth a fwriadasai ar gyfer ei gymydog y golchwr.