Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Flwyddyn Newydd yn China a Japan

ER mai Ionawr y cyntaf a gyfrifir yn swyddogol yn ddydd cynta'r flwyddyn yn China heddiw, dilyn corff y boblogaeth yr hen drefn o gyfrif amser, ac iddynt hwy ym mis Chwefror y dechrau eu blwyddyn. Cyfrif amser a wnant hwy oddi wrth newidiadau’r lleuad, ac oherwydd hynny ni ddisgyn eu dydd Calan ar yr un adeg bob blwyddyn. Dyna oedd yr hen drefn yn Japan, hefyd, ond erbyn hyn daeth trigolion Japan i ddilyn dull y Gorllewin yn fwy cyffredinol o lawer na'u cymdogion yn China.

Ar ddydd Calan bydd pob dyn yn Japan yn cael pen blwydd newydd; nid yw o ddim gwahaniaeth pa ddydd o'r flwyddyn y ganed ef arno, caiff ben blwydd arall y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd. Pe genid plentyn ar y dydd olaf o Ragfyr, drannoeth, y dydd cyntaf o Ionawr, dywedid ei fod yn ddwy flwydd oed, oherwydd yr oedd wedi byw mewn dwy flwyddyn wahanol, ac ar y cyntaf