Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o Ionawr ymffrostiai y rhieni bod ganddynt blentyn dwyflwydd!

Medd y Japaniaid ar reddf naturiol at y cain a'r prydferth. Y rhodd fwyaf poblogaidd i'w chyflwyno i gyfeillion ar ddechrau blwyddyn ydyw dysglaid o flodau neu blanhigion. Bychan iawn ydyw'r planhigion, ac weithiau ceir hanner dwsin neu ragor ohonynt, yn llawn blodau, wedi eu plannu mewn dysgl fawr. Mewn ambell dŷ, bydd y llawr wedi ei orchuddio gan y rhoddion prydferth hyn, ac anodd a fydd cerdded rhyngddynt.

Rhaid i bob un yn Japan, hyd yn oed y tlotaf, gael gwisg newydd erbyn y Calan; gwneir i ffwrdd â phopeth hen, hyd y gellir, a dechreuir y flwyddyn newydd yn llwyr o newydd. Ni bydd neb yn gwisgo dillad tywyll ar ddydd Calan, ond pawb y lliwiau disgleiriaf posibl, rhag rhoi tramgwydd, meddir, i "ysbryd siriol y flwyddyn newydd." Dywed cenhades iddi gael braw mawr un Dydd Calan. Clywodd sŵn annaearol y tu allan i'r tŷ, a rhywun yn curo tabwrdd (drum) yn egniol. Gofynnodd i'r forwyn, "Beth sy'n bod?" Atebodd hithau, "O! y