llew sydd wedi dyfod." "Llew!" ebe'r genhades, mewn dychryn. Edrychodd drwy'r ffenestr a gwelai ddau ddyn y dyn a gurai'r tabwrdd, a dyn arall nad oedd ond ei ddau droed yn y golwg, oherwydd, ar ei ben, a thros ei ysgwyddau, yr oedd ganddo ben a mwng llew—neu'r pethau tebycaf i hynny a fedrasai eu creawdwr eu cynyrchu; ac i'r llew yr oedd safn anferth, yr hon a agorai ag a gaeai gyda sŵn mawr. Eglurodd y forwyn mai dyfod yno yr oedd "y llew" i gynnig ei wasanaeth, am ychydig geiniogau, i lyncu yn fyw yr holl ysbrydion drwg oedd yn y tŷ, fel y gallai'r teulu ddechrau eu blwyddyn yn glir o bob drygau.
Yn China, ar nos Galan, llosgir Duw y Gegin. Darlun ydyw hwn a grogir uwchben y lle tân, yn y lle mwyaf manteisiol iddo weld popeth ac â ymlaen yn y tŷ. Credir ei fod yn sylwi ar bob gair a ddywedir, ac ar bob gweithred a gyflawnir, ar hyd y flwyddyn. Tynnir ef i lawr nos Galan a llosgir ef. Esgyn y duw yn y mwg i adrodd yn y nefoedd yr hyn a welodd ac a glywodd yng ngorff y flwyddyn.
Ar y dydd olaf o'r hen flwyddyn mewn