rhai rhannau o'r wlad, cyneuir tân mawr; teflir halen i'r fflamau er mwyn gwneud iddynt "glecian," ac yna bydd rhai o'r rhai dewraf yn rhedeg drwy eu canol, a llosgir ymaith eu holl bechodau. Dechrau yr arfer, meddir, oedd hyn: Amser maith yn ôl yr oedd dyn o'r enw Dang Dong yn byw yn Foochow. Câs ydoedd gan bawb o'i gymdogion, ac er mwyn tynnu dinistr arno, anfonasant arch i'w dy ar ddydd ola'r flwyddyn. Heb ei gynhyrfu ddim, torrodd Dang Dong yr arch yn ddarnau, a gwnaeth goelcerth ohono; ac fel yr oedd y tân yn clecian, eisteddai yntau o'i flaen dan ganu:
"Do, llosgodd Dang Dong yr arch yn y tân;
Gorchfygodd bob gelyn oedd ganddo yn lân.
Credir mewn digon o sŵn yn China. Hi ydyw mamwlad y fire-works a'r crackers, ac ar ddechrau'r flwyddyn bydd eu sŵn fel sŵn tanio ar faes rhyfel. Amcan yr holl dwrw ydyw gyrru'r ysbrydion drwg i ffoi.
Yn ebrwydd wedi gŵyl y Calan, dilyn gwyl y Lanternau. Crogir ugeiniau a channoedd o lanternau, o bob ffurf a llun, ac wedi eu gwneud o bapurau amryliw, ym mhob