Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cowrt ac o amgylch pob tŷ a theml. Edrychant yn brydferth dros ben. Amcan y rhain eto ydyw dychryn yr ysbrydion, oherwydd nid oes dim a ofna ysbrydion y tywyllwch yn fwy na goleuni. Yn y trefi mawr, mewn amser a fu, trefnid gorymdaith ar raddfa anghyffredin. Paratoid ar ei chyfer am fisoedd, a deuai'r bobl ynghyd wrth y miloedd. Darperid draig (dragon) anferth ei maint, nid llai na thrigain troedfedd o hyd; ei safn fawr yn agored, ei dau lygad fel pelenni o dân, ei hewinedd, a'i chorff, a'i chynffon, wedi eu gosod wrth ei gilydd yn y modd mwyaf celfydd. Cludid hi gan wyth neu ddeg o ddynion, y rhai a fedrent ei throi a'i llywio fel y mynnent. Ychydig lathenni o'i blaen cerddai dyn gan gario lantern fawr, gron, ddisglair, ar ben polyn. Cynrychioli yr haul a wnai'r lantern, a cheisio a wnai y ddraig ddal

ddraig ddal yr haul a'i lyncu, fel y byddai tywyllwch bythol ar y ddaear, ac y cai yr ysbrydion drwg eu ffordd eu hunain. Wedi i'r ddraig fethu yn ei hamcan, malurid hi yn ddarnau, a llosgid hi yn lludw. Erbyn heddiw ceir bod llawer o'r hen arferion hyn yn prysur ddiflannu.