Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y Ddawn Anhraethol"

EISTEDDAI John yn ei wely mewn Ysbyty i'r Gwahangleifion yn India. Yr oedd wedi plygu un goes nes pwysai ei wyneb ar ei ben glin. Nid oedd dim o'r goes arall yn aros ond y bôn: torrasid hi ymaith er arbed ei fywyd. Yr un modd ei fysedd; bu rhaid torri rhai ohonynt i ffwrdd. Ar y gwely o'i flaen yr oedd copy book, a cheisiai yntau â'r bysedd oedd yn aros ddysgu ysgrifennu llythrennau y wyddor Hindi. Ond yr hyn a dynnai sylw pawb oedd ei wyneb. Ni welwyd erioed wyneb hapusach; yr oedd llawenydd a natur dda yn pelydru allan ohono fel heulwen haf.

"John," meddai'r meddyg amdano, "ydyw’r cenhadwr gorau dros Grist sydd yn yr Ysbyty yma." Ac aeth ymlaen i ddweud gair o'i hanes:

"Anfonwyd ef yma o'r Cartref yn Ellich-pur oherwydd bod rhaid torri ei goes i ffwrdd. Digwyddodd fod yma y Nadolig, a rhoesom gadach gwddf bychan prydferth iddo, un o amryw roddion tebyg a anfonasid