Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

inni gan gyfeillion gartref. Yna meddyliodd ei gyfeillion yn Ellichpur amdano, ac anfonasant hwythau rodd Nadolig iddo. Yr oedd wrth ei fodd, ac wrth fynd heibio ei wely dywedais wrtho mor ffodus ydoedd o gael dwy rodd ar ddydd Nadolig. Goleuodd ei wyneb wrth fy ateb:

"Ie, Doctor Sahib, y mae'r rhain yn wir yn rhoddion da, ac yr wyf yn llawen iawn. Ond y mae'r rhodd fwyaf oddi mewn, yn y fan yma (gan osod ei law ar ei galon)—mae Iesu Grist yn fy nghalon."

Cerddodd y meddyg ymlaen at wely arall, ac meddai: "John bach arweiniodd y dyn yma at yr Iesu. Yr oedd cyflwr John yn llawer gwaeth na'r eiddo ef, a methai'r dyn a deall sut yr oedd un mor ddrwg ei gyflwr yn medru bod mor siriol. Ond deallodd cyn hir: 'yr Iesu oddi mewn' oedd esboniad y dirgelwch."