Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Stori Aisha

RHYWBRYD tua dechrau'r flwyddyn ddiwethaf safai geneth bymtheg oed yng ngorsaf fawr a phrysur y rheilffordd yn Lawr, India. Yr oedd golwg ddychrynedig a thrallodus iawn arni. Newydd gyrraedd yno gyda'r trên yr ydoedd,-ei siwrnai gyntaf mewn trên. Ffoisai o'i phentref bychan ei hun i'r ddinas fawr. Wedi cyrraedd yno yr oedd popeth mor newydd, mor ddieithr, mor wahanol i ddim a welsai hi o'r blaen, fel yr oedd ofn a dychryn bron wedi ei gyrru yn wallgof.

Gwelodd drên arall yn dod i mewn, a rhuthrodd i mewn i hwnnw, i ganol cerbyd hir oedd eisoes yn llawn. Edrychai pawb o'r teithwyr ar yr eneth garpiog, ofnus, a geisiai ymguddio mewn rhyw gongl. Yn y man wele ferch Indiaidd dal, olygus, oedd yn amlwg yn rhywun allan o'r cyffredin, yn codi ac yn myned ati, gan siarad yn garedig â hi. Edrychai'r teithwyr yn syn. "Pam yr ydych chwi, sy'n ferch o'r caste uchaf, yn siarad â geneth dlawd fel yna, o caste