Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

isel?" Atebodd hithau, "Cristion wyf fi," -fel pe buasai hynny yn egluro popeth.

Cyn hir cafodd gan yr eneth adrodd ei hanes: "Ffoi yr ydwyf," meddai, "o dŷ fy ewythr. Y mae yn gamblo, ac wedi rhedeg i ddyled, ac yn awr y mae am fy mhriodi i â dyn y mae arno dri chant o Rupees iddo, rhag iddo orfod talu yr arian. Penderfynais ffoi neithiwr; ond ni wn i ba le i fynd. Clywais chwi yn dweud eich bod yn Gristion; mae arnaf innau eisiau bod yn Gristion hefyd."

Meddyges ieuanc Indiaidd oedd y ferch a siaradai â hi, ar ei ffordd i fyned i ofalu am Ysbyty cenhadol newydd yng nghanolbarth India. Synnodd y feddyges ei chlywed yn dweud bod arni awydd bod yn Gristion. "Beth wyddoch chwi am fod yn Gristion?" gofynnodd, ac atebodd y ffoadures fach, Aisha wrth ei henw: "Ni wn lawer. Maethion ydwyf fi, ond y mae gennyf chwaer sy'n Gristion." Ac aeth ymlaen gyda'i stori:

"Pan oeddym yn blant bychan, aethom i chwarae ger glan yr afon. Nid oedd fy chwaer ond baban yr adeg honno. Gadewais hi ei hun am funud neu ddau, a phan ddeu-