Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thum yn ôl nid oedd dim golwg ohoni. Cawsom wedyn mai lleidr oedd wedi ei chario hi ymaith, er mwyn yr ychydig jewels oedd ganddi am ei gwddf ac ar ei breichiau. Yna rhaid ei fod wedi ei gadael yn y goedwig. Daeth rhywun o hyd iddi, a chan na wyddai neb pa le yr oedd ei chartref, cymerodd cenhades ei gofal. Cyn hir iawn, clywodd fy modryb pa le yr oedd, a chan fod yn dda ganddi gael ymadael â hi, gadawodd hi yno. Bydd fy chwaer yn ysgrifennu ataf, ac yn dweud wrthyf y pethau y mae yn eu dysgu, a bydd arnaf finnau awydd bod yn Gristion hefyd."

Aed ag Aisha i Ysgol yn Akbarpur, yn yr United Provinces, ac ar nos Nadolig bedyddiwyd hi yn enw yr Arglwydd Iesu Grist. Ei dymuniad ydyw dyfod yn athrawes i ddysgu ei chwiorydd tlodion yn yr India am yr Hwn â ddangosodd y fath drugaredd iddi, ac a roddodd gymaint llawenydd yn ei bywyd.