Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fodd y llwyddai i fyw mor llwyr i'r dwyfol ac ar yr un pryd i gyflawni ei orchwylion daearol mor berffaith. "Pob dyn arall y gwn amdano," meddai'r ymofynydd, "y mae naill ai wedi ffoi a gadael y byd, neu y mae'n byw i'r byd hwn yn llwyr; ond yr wyt ti yn gwneud dy ddyletswydd i'r ddau fyd." "Mi a ddangosaf iti," ebe'r brenin, "oherwydd y mae dangos yn well nag adrodd."

Galwodd un o'i weision ato, a gorchmynnodd iddo lenwi llestr pridd â dŵr, yn llawn hyd yr ymylon, a'i osod ar ben y dyn. Yna galwodd ar ddau o'i filwyr, a gorchmynnodd iddynt hwythau gerdded un o bob ochr i'r dyn trwy ganol y ddinas ac yn ôl i'r palas. "Os bydd i ti," meddai'r brenin wrtho, "golli cymaint ag un diferyn o'r dŵr, rhoddaf orchymyn i'r milwyr i dorri dy ben ar unwaith."

Anfonodd y brenin orchymyn hefyd yn ddirgel ar fod dawnswyr, a cherddorion, a jugglers o bob math i fyned drwy eu campau ym mhob heol y cerddai y dyn a'r milwyr ar hyd-ddynt. Cychwynasant i'w taith, a'r dyn druan bron a llewygu gan ofn. O'r diwedd cyraeddasant yn ôl i'r palas. "Diolch byth!"