Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llefai'r dyn, "y mae fy mhen yn ddiogel; ni syrthiodd yr un diferyn o'r dŵr i lawr." "A beth a welaist ti ar dy daith?" gofynnodd y brenin iddo. "Ni welais i ddim," atebodd yntau; "pa fodd y gallwn sylwi ar ddim tra'r oedd fy holl feddwl ar achub fy mywyd?" "Da iawn," ebe'r Raja, ac adroddodd iddo fel y trefnasai i anfon chwaraewyr o bob math i dynnu ei sylw ar y ffordd, "ac yr wyt yn awr wedi cael ateb i dy gwestiwn; fel yna yr wyf innau yn ceisio myned drwy y byd."