Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ffyddlon i'w Air

CYFOETH, heb gyfiawnder," medd un o ddoetheiriau yr India, diwerth ydyw." Yr oedd unwaith frenin uchel (Raja) na thorrai byth mo'i air. Er ceisio cefnogi ei ddeiliaid i fasnachu, addawodd y byddai iddo ef brynu beth bynnag a fyddai'n weddill heb ei werthu yn y farchnad ar ddiwedd y dydd, pa mor werthfawr neu ddiwerth bynnag a fyddai. Un diwrnod, er mwyn rhoddi prawf ar y brenin, dygodd Brahmin ddelw o'r dduwies A-Lakshmi i'r farchnad. (Lakshmi ydyw enw duwies cyfoeth neu ffawd dda; seinir yr enw Loki; o'r gair hwn y tardd y Saesneg luck. Ystyr A-Lakshmi ydyw "heb gyfoeth," neu "ffawd ddrwg"). Y dduwies hon sy'n dwyn aflwydd i ran dynion, ac oherwydd hynny ni phrynai neb ei delw. Ond rhoddasai y brenin ei air y prynai ef beth bynnag oedd yn aros heb ei werthu. Er mwyn bod yn ffyddlon i'w air, prynodd hi, ac aeth â hi i'w balas. Ar unwaith dechreuodd y duwiau a'r duwiesau eraill fyned allan, o un i un.