Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daeth Tlodi i mewn, ac Afiechyd; bu farw meibion a merched y brenin; ymadawodd Heddwch hefyd, a thorrodd rhyfel allan yn y deyrnas. Yn olaf oll, gwelodd y brenin fod duw Cyfiawnder yn hwylio i adael y palas. Ymaflodd y brenin ynddo, ac ni oddefai iddo symud. "Ni chei di fynd oddi yma," meddai, "oherwydd er dy fwyn di yn unig, duw Cyfiawnder a Gwirionedd, yr wyf fi yn gorfod dioddef yr holl bethau hyn." Felly trodd y duw yn ôl. Cyn hir dechreuodd y duwiau eraill ddyfod yn ôl hefyd, ac ymgrymasant gyda'i gilydd gerbron y brenin gan ganu ag unllais: "Lle byddo Cyfiawnder, yno y daw Buddugoliaeth yn y diwedd." Trwy ei ffyddlondeb i'w air sicrhaodd y brenin lwyddiant bythol i'w deyrnas.