Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agosaf gwlad Kenya. Gorweddai eu llwybr gan mwyaf drwy anialwch, ac yr oeddynt mewn peryglon beunydd,—peryglon oddi wrth ddynion gwylltion a bwystfilod gwylltion. Gwelsant ar eu ffordd gyrff dynion a gwympasant neu a laddesid. O'r diwedd, yn lluddedig iawn, cyraeddasant orsaf y Llywodraeth Brydeinig ar derfynau Kenya. Ond ni feddent ar drwydded (passport), ac ni fedrai'r swyddog, gan hynny, ganiatáu iddynt fyned ymlaen. Arosasant yn y lle hwn dri mis. Gwyddai cydymaith Heruye ychydig Saesneg, a chafodd waith fel clerc; ond trawyd Heruye yn wael, a bu am wythnosau yn yr Ysbyty. Penderfynodd ei gyfaill aros lle'r ydoedd, ond rhoddodd, yn garedig iawn, ran o'i enillion i Heruye i'w helpu i orffen ei daith. Teithiodd Heruye o orsaf y Llywodraeth i orsaf agosaf y rheilffordd—pellter o 120 milltir—mewn motor lorry, ac yna aeth ymlaen i Nairobi, 180 milltir arall, gyda'r trên.

Nid oedd yn adnabod neb yn Nairobi, ac ni ddeallai ddim o iaith y wlad. Rhoddasai swyddog y Llywodraeth lythyr iddo at swyddog yn Nairobi, a chyflwynodd yntau