Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef i sylw un o genhadon Eglwys Loegr. Er ei syndod pwy a ddigwyddodd y cenhadwr hwnnw fod ond y gŵr a glywsai yn pregethu yn ei wlad ei hun, yn Abysinia draw. Adroddodd ei hanes, a gwnaed trefniadau iddo fyned i'r ysgol. Dysgodd iaith Nairobi, y Swahili, yn gyflym. Dywed y cenhadwr amdano ei fod "yn un o'r bechgyn mwyaf dymunol a boneddigaidd a welodd erioed," ac mai ei ddymuniad pennaf yn awr ydyw "dysgu gymaint ag a all yn yr ysgol a dychwelyd yn genhadwr at ei bobl ei hun yn Abysinia."