iddo gyrraedd, daeth dyn yno o bentref arall bum milltir o ffordd, gan ddweud fod ei eneth fach wedi llosgi yn ddrwg; a oedd gan yr Hakim Gwer (Hakim, meddyg; Gwer, athro) ryw feddyginiaeth a wnai leddfu ei phoen? Addawodd y cenhadwr ddyfod yno yn ddioed, ac wedi cael tamaid brysiog o fwyd cychwynnodd i'r daith. Cymerodd ei feisicl ("y mul haearn" fel y geilw'r Dinka ef), gydag ef. Yn fuan yr oedd yn myned trwy ganol glaswellt uchel, troedfedd neu ddwy yn uwch na'i ben. Llwybr cul a throellog oedd ganddo i fyned ar hyd-ddo, a'r glaswellt yn fynych yn taro yn erbyn ei wyneb a'i freichiau, ac yn myned i mewn i olwynion ei feisicl gan ei rwystro i fynd ymlaen.
Pan oddeutu hanner y ffordd clywodd lew yn rhuo yn y glaswellt. Ni fedrai ei weled, ond gwyddai oddi wrth y sŵn ei fod yn agos iawn ato. Neidiodd oddi ar gefn y "mul haearn." Safodd ar y llwybr, a mur o laswellt uchel, trwchus, o bobtu iddo. Petrusai am foment beth i'w wneud. Yr oedd ar yr eneth fach angen ei help ar frys, ac eto, pe cai y llew afael arno, ni fedrai ei helpu hi na