Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neb arall byth. Anfonodd saeth-weddi at Dduw, ac ar amrantiad daeth yr ateb mewn adnod a fflachiodd i'w feddwl. Yr adnod oedd hon: "A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth?" (Amos iii, 4). Atebodd cenhadwr y cwestiwn iddo'i hun: "Na," meddai, "ni fuasai'r llew yn rhuo fel hyn, gan ddychryn ymaith bob ewig a phob bwch, oni bai ei fod eisoes wedi dal rhywbeth i ysglyfaethu arno. Galw y mae, mae'n debyg, ar ei gydymaith i gyd-wledda ag ef; a phe clywai fy sŵn i yn myned drwy'r glaswellt, nid yw'n debyg y trafferthai i adael ei ysglyfaeth, a dyfod ar fy ôl."

Neidiodd drachefn ar gefn ei feisicl; cyrhaeddodd y pentref yn ddiogel, a thriniodd friwiau y plentyn. Yn y man hwyliodd i ddychwelyd adref, ac fel y gadawai y pentref gofynnodd rhai o'r dynion iddo a glywsai lew yn rhuo pan ar ei ffordd yno? Pan atebodd yn gadarnhaol, dywedodd un ohonynt wrtho, "Gwer! ni ddylet deithio trwy'r glaswellt hir heb waywffon i amddiffyn dy hun. Er eu syndod atebodd, "Ni byddaf byth yn teithio i unman heb fy ngwaywffon." Edrychasant arno, ac ar ei feisicl, ac meddent, "Ni