Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwron Livingstonia

UN o ramantau mwyaf rhyfeddol ymgyrch cenhadol y ganrif ddiweddaf ydyw hanes Robert Laws, M.D., D.D., Livingstonia. Treuliodd ddeuddeng mlynedd a deugain yn Affrica, o 1875 hyd 1927. Bu farw ym mis Awst, 1934.

Pan fu farw Dr. Livingstone yn 1873, clywyd ei sialens i efengyleiddio'r Cyfandir Tywyll yn holl eglwysi'r Ysgotland, ac un o'r rhai cyntaf i ateb yr alwad oedd Robert Laws,-efrydydd ieuanc, pedair ar hugain oed, o amgylchiadau hynod gyffredin, ond wedi ei fendithio â gwroldeb a phenderfyniad di-ildio. Nid aeth cenhadwr erioed i wlad fwy barbaraidd na'r diriogaeth yr anturiodd ef iddi. Gwelid yno holl ddrygau paganiaeth yn eu ffurf waethaf a chreulonaf. Ar derfyn pum mlynedd cyntaf ei lafur, dyma, fe ddywedid, yr hyn oedd gan y Genhadaeth i'w ddangos fel ffrwyth ei gwaith: "Pump o feddau cenhadon; ugain mil o bunnau wedi eu gwario; nifer y dychweledigion,—un!" Erbyn heddiw ceir yn y wlad