Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honno dros drigain mil o Gristionogion, a thros wyth gant o ysgolion. Rhoddwn y dyfyniadau anghysylltiol a ganlyn o'i Gofiant ac o'r llu ysgrifau sydd wedi ymddangos amdano.

Gofynnodd y Parch. W. P. Young i un o'r brodorion yn Livingstonia, gŵr o'r enw Yuraya Choiwa, pa gyfrif a roddai am ddylanwad nodedig Dr. Laws ar y bobl. Atebodd Yuraya: "Pethau fel hyn sy'n cyfrif amdano. 'Rwy'n cofio, un noson wyllt, dywyll, ystormus, ar ganol y nos cymerwyd dyn yn wael, ac yn wael iawn, ym mhentref y Gogo. Nid oedd Dr. Laws wedi bod ond ychydig fisoedd yn y wlad yr adeg honno. Yr oedd y teulu yn drallodus dros ben, ac yn awyddus am gael y cenhadwr i weled y claf. Ond atebodd y cymdogion: "Waeth i chwi heb nag anfon; ddaw yr un dyn gwyn o'i wely cysurus ar noson fel hon i weld rhai o'n bath ni!" Dywedodd Yuraya, "Mi treiaf o." Aeth at dŷ y cenhadwr; curodd ar y drws. Yn y fan wele lais oddi mewn yn galw, "Pwy sydd yna? beth sydd yn bod?" Atebodd Yuraya, "Mae yna ddyn yn sâl iawn yn y pentref." "O'r gorau, byddaf