Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn barod mewn pum munud." Ymhen pum munud yr oedd y ddau yn cerdded cyn gyflymed ag y medrent drwy'r storm a'r tywyllwch, ac arhosodd y meddyg wrth wely'r claf ar hyd y nos. Achubwyd bywyd y dyn. Pethau fel yna sy'n cyfrif am ddylanwad Dr. Laws."

Dywed Mrs. A. E. Mackenzie, a fu'n genhades yn Livingstonia, pan gynigiodd hi ei hun i'r gwaith, ei galw i gyfarfod Dr. Laws er cael ymddiddan ag ef. Wedi gofyn iddi ychydig gwestiynau am ei haddysg, a hynny yn bur gwta, gofynnodd yn sydyn: "Wyddoch chi sut i fyw hefo draenog (hedgehog)?" Edrychodd ym myw fy llygad, heb gysgod o wên ar ei wyneb. Wedi imi gael fy anadl, dywedais fy mod wedi cael ychydig brofiad o fyw gyda phobl felly. Ei gwestiwn nesaf oedd, 'Wyddoch chi sut i sgwrio llawr?' Rhaid oedd imi ateb na fûm erioed yn treio, 'ond 'rwyf yn siwr,' meddwn, 'y medrwn ddysgu.' Yna dywedodd wrthyf, braidd yn chwyrn, ac eto yn garedig: 'Peidiwch â meddwl am fynd i Affrica i fyw fel y brodorion, mewn bwthyn gwael o glai, ac i fwyta eich bwyd allan o lestri enamel, ac i ymwadu â