phob cysuron. Nid eich bedd chwi sydd ar Dduw ei eisiau, ond eich gwaith, a'ch gwaith gorau. Fedrwch chwi byth wneud eich gwaith gorau os byddwch byw mewn amgylchoedd salw. Yr ydych yn mynd i Affrica i godi'r trigolion, nid i ddisgyn i'w lefel hwy. A ydych yn hoff o fiwsig, ac o ddarluniau prydferth, ac o ddarllen llyfrau? Ewch a digon ohonynt gyda chwi. Peidiwch â mynd a llyfrau crefyddol yn unig. Os ydyw Alice in Wonderland gennych, ewch ag ef gyda chwi, a llyfrau eraill i wneud i chwi chwerthin pan fyddwch yn teimlo yn isel eich meddwl. Ewch a phethau i wneud i'ch ystafell edrych yn siriol a phrydferth, a llestri prydferth i'w rhoi ar eich bwrdd. Yr ydych yn sicr o deimlo weithiau fod pob awydd am fwyd wedi cilio, ond bydd bwrdd â llestri da arno yn siwr o godi blys arnoch am fwyd.' Cyn imi ei adael, aeth y Doctor i weddi, a'i air olaf imi oedd hwn: 'Cofiwch, eich gwaith, nid eich bedd, sydd ar Dduw ei eisiau. Mynnwch synnwyr cyffredin wedi ei sancteiddio."
Un bore daeth dau negro talgryf â'u gwragedd at dŷ Dr. Laws. Cwerylai y ddwy wraig