beunydd. Y bore hwnnw aeth y ffrae yn ymladd, a brathodd un fysedd ei chymdoges yn greulon. Methai'r gwŷr a chael trefn arnynt, ac apeliasant am gymorth y cenhadwr. Aeth y meddyg i'r dispensary, a daeth allan gyda darnau o sticking plaster. Wedi rhwymo'r bysedd dolurus, gosododd ddarn o'r plaster ar draws genau y dioddefydd, o'r trwyn i'r ên; ac ar enau y llall, oedd yn amlwg y fwyaf tafodrydd o'r ddwy, rhoddodd ddau ddarn, a gorchmynnodd hwy i ddychwelyd gyda'r hwyr i gael eu tynnu ymaith. Ymdreiglai'r gwŷr gan chwerthin, ac nid oedd ball ar eu hedmygedd o "feddyginiaeth" effeithiol y dyn gwyn.
Ymddiddanai dau bagan am ryw droseddau a gyflawnesid y dyddiau hynny. "Rhyfedd iawn," meddai un, "gan fod yr Azungu (y dynion gwyn) mor glyfar, a chynifer o bethau ganddynt, na buasai ganddynt ryw ffisig i wneud dynion drwg yn ddynion da." "Ond y mae ganddynt," atebai'r llall. "Beth ydyw?" "Llyfr Duw," oedd yr ateb.
"Pa fodd y mae'r dyn gwyn yn gwybod yr holl bethau yma?" gofynnai un o'r brodorion i Dr. Laws, gan gyfeirio at ei fedr ef