a'i gyd-genhadon i wneud gwaith saer, a thrin y tir, ac ysgrifennu, a gwneud dillad, etc. Estynnodd Dr. Laws y Beibl, ac meddai: "Yr oedd ein hynafiaid mor isel ac anwybodus a chwithau, ond rhoisant ufudd-dod i'r Llyfr hwn, ac nid yn unig fe gawsant dangnefedd yn eu calon, ond llwyddasant mewn pethau allanol hefyd."
Dygwyd pagan tlawd at Dr. Laws wedi ei archolli yn ddifrifol. Ni ellid gwneud dim i'w helpu. Tra'n gorwedd yn gwaedu i farwolaeth, llefai yn ddibaid: "Rwy'n mynd, ddyn gwyn! I ble 'rydwy'n mynd, ddyn gwyn?" "Am ddyddiau," meddai'r cenhadwr, "ni allwn gael ei eiriau o'm clustiau. O na byddai i'w gri chwerw dreiddio trwy Brydain i gyd!"
Gofynnwyd i'r cenhadwr gan gyfaill: "Wrth edrych yn ôl dros eich hanner canrif o wasanaeth, Doctor, beth ydyw'r argraff ddyfnaf a adawyd ar eich meddwl?" Atebodd yn dawel: "Rhagluniaeth Duw a'i gard, yn ein harwain a'n cyfarwyddo, ac yn cyflawni Ei fwriadau Ei Hun a'n dymuniadau uchaf ninnau mewn ffyrdd na wyddem ni. Dioddefais ryw gymaint, 'rwy'n addef; ond