Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Toddi'r Galon Galed

YMHLITH aml flinderau China y blynyddoedd hyn nid y lleiaf ydyw'r cwmnïau o ysbeilwyr (brigands) sy'n tramwyo'r wlad, gan daenu braw a dinistr pa le bynnag yr ânt. Tramwyant yn gwmnïau o rai cannoedd mewn rhif—dynion arfog, creulon, didostur, na phetrusant ddinistrio eiddo, nac ychwaith boenydio a lladd y neb a syrthio i'w dwylo. Rhoddant weithiau bentrefi cyfan ar dân; saethant y trigolion, neu dygant rai ohonynt ymaith i'w dal yn garcharorion hyd oni thelir pridwerth i'w rhyddhau. Ofnir hwy yn fwy gan eu cyd-wladwyr na byddinoedd yr estroniaid. Cafwyd prawf rhyfeddol yn ddiweddar fod "Stori y Groes" yn medru cyffwrdd calonnau hyd yn oed ddynion fel y rhain.

Y Parch. T. Darlington, cenhadwr gyda'r China Inland Mission, a adroddai yr hanes yma yn ddiweddar yn un o gyfarfodydd y Feibl Gymdeithas. Un noswaith daeth cwmni o ysbeilwyr, yn rhifo dros ddau gant, i'r dref lle'r oedd Mr. Darlington a'i wraig yn