Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byw. Y peth cyntaf a wnaethant oedd saethu nifer o blant diniwed oedd yn chwarae ar yr heolydd. Dyna eu ffordd o ddangos i'r trigolion nad oeddynt "am sefyll dim nonsens." Dechreuasant ysbeilio y tai a'r temlau, a chyhoeddasant nad oedd neb i fyned allan o'u tai. Golygai hyn na fedrai'r cenhadwr a'i wraig fynd ymlaen gyda'u gwaith; ni chaent ymweled, ac ni chai neb o'r bobl ymweled â hwy. Penderfynasant, modd bynnag, agor y capel, oedd yn gysylltiedig â'u tŷ, a gwahoddasant yr ysbeilwyr i ddod i mewn iddo. Dechreuasant trwy chwarae tôn neu ddwy ar yr harmonium ac ar y cornet. Daeth y dyhirod i mewn, y naill ar ôl y llall, hyd oni lanwyd y lle. Cymerodd y cenhadwr ei Destament yn ei law, a dechreuodd ddarllen hanes Ing yr Ardd a hanes y Croeshoeliad. Ni ddywedodd air ei hunan—dim ond darllen yn syml, ac yna ychwanegodd, "Os dowch yma nos yfory, darllenaf yr hanes i chwi eto."

Y noswaith ddilynol digwyddodd yr un peth drachefn, a phob nos trwy'r wythnos. Yr oedd y capel yn orlawn, noswaith ar ôl noswaith,—yn orlawn o ysbeilwyr gwaedlyd,