Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llofruddiog. Erbyn diwedd yr wythnos, teimlai'r cenhadwr yn sicr fod rhyw ddylanwad rhyfedd wedi ei gynyrchu, a mentrodd wneud apêl. Dywedodd: "Os dymuna rhai ohonoch dderbyn y Crist hwn fel eich Gwaredwr, dowch ymlaen i'r fan yma, ac ewch ar eich gliniau i ofyn am faddeuant. Ar y gair cerddodd tri ar ddeg ymlaen, a'r dagrau yn rhedeg i lawr eu gruddiau. Dagrau ar ruddiau dynion na wyddent ddim am dynerwch na thosturi,-dynion a laddent eu gelynion yn y modd creulonaf, ac a dynnent eu calonnau allan o'u cyrff i'w bwyta! Cyn iddynt ymadael dywedodd y cenhadwr y byddai'n barod i gychwyn dosbarth gyda hwy drannoeth, i astudio hanes Iesu Grist, os dymunent hynny.

Trannoeth, tua hanner awr wedi pedwar yn y bore, deffrowyd y cenhadwr gan sŵn y tuallan i'w dŷ. Wedi myned allan gwelodd ei "ddosbarth" yn disgwyl amdano, a phob un ag arian yn ei law i dalu am ei Feibl! Nid yn unig bu cyfnewidiad trwyadl ym mywyd y tri ar ddeg, ond arweiniwyd amryw eraill o'r cwmni i roddi eu hunain i Grist.