Yr Apostol a'r Lleidr
EDRYDD y Deon Farrar yn ei gyfrol "The Pupils of St. John," hanes a geir gan ysgrifennwr bore am yr Apostol Ioan yn ei hen ddyddiau. Arferai'r Apostol, a chwmni o'r credinwyr, gyfarfod yn nhŷ Tewdwr (Theodore), a deuai'r saint ynghyd i wrando gydag eiddgarwch mawr, o enau'r disgybl yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ei atgofion am ei Arglwydd. Ceid yn y cwmni bobl o bob gradd a sefyllfa,—cyfoethog a thlawd, dysgedig ac annysgedig, caeth a rhydd, Iddew a chenedl-ddyn.
Sylwasai'r Apostol yn arbennig ar un gŵr ieuanc a wrandawai gydag astudrwydd mawr. Hoffodd ef, ac wedi ymddiddan ag ef, rhoddodd ef yng ngofal yr Esgob i'w baratoi ar gyfer ei fedyddio. "Gadawaf y trysor hwn yn dy ofal," meddai wrth yr Esgob, pan ymadawai â'r ddinas.
Am beth amser aeth popeth ymlaen yn foddhaol. Dilynai'r gŵr ieuanc gynulliadau’r saint yn gyson; ac yna, yn raddol, dechreuodd gilio'n ôl. Profodd gwawd ei gyfeill-