Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion yn fwy nag a fedrai ei ddal. Cyn hir collwyd golwg arno yn llwyr, ond cafwyd sicrwydd yn y man ei fod wedi ymuno â chwmni o ladron a deithient y wlad, ac mai ef oedd eu harweinydd.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ac Ioan bellach mewn oedran mawr iawn, ymwelodd drachefn â thŷ Tewdwr, a chyfarfu yno â'r Esgob. "Pa le mae'r trysor a adewais yn dy ofal?" gofynnodd yn ddioed. Anghofiasai'r Esgob bopeth amdano, a bu ennyd heb ddeall beth a olygai'r Apostol. Yna atebodd: "Mae'n ddrwg gennyf: collasom ef."

"Pa beth? a ydyw wedi marw?"

"Na, gwaeth na hynny; ef heddiw ydyw arweinydd cwmni o ladron, y mae eu harswyd trwy'r wlad."

"Pa le y dof o hyd iddo?" gofynnodd Ioan. Rhoddodd orchymyn i gyfrwyo ei farch. "Af ato ar fy union," meddai.

Protestiodd yr Esgob yn erbyn y fath fwriad: "Maent yn sicr o dy ladd," meddai.

Atebodd yr hen ddisgybl yn dawel: "Bu fy Arglwydd farw er fy mwyn i, ac oni ddy-