anffaeledig i blorynod a chornwydydd (pimples and boils). I dorri newyn neu i liniaru syched, ysgrifenner Sura 26, 78-90, ac adrodder y geiriau un ar hugain o weithiau. Yn amddiffyn i wraig ar enedigaeth plentyn, ysgrifenner Sura 21, adnodau 91-93; gwisger y swyn am ddeugain niwrnod; yna, wedi geni'r plentyn, rhwymer y swyn ar ei gorff ef, a bydd yn amddiffyn iddo.
I wella rhai mathau o afiechyd, yn arbennig doluriau ar y croen, cymerer darn o edafedd, a rhodder tri chwlwm arno, gan adrodd bob tro y gwneir cwlwm, adnod 31 o Sura 14: "Tebyg yw gair drwg i bren drwg, a dorrir uwchben y ddaear ac nid oes iddo le i aros." Yna rhodder yr edafedd ar y claf, a chilia ei anhwyldeb yn fuan. Mewn achos o dwymyn (fever), cymerer edafedd llin, ac adrodder uwch ei phen Sura 94. Ceir y llythyren kaf naw gwaith yn y bennod hon. Pan ddeuer at y llythyren kaf, rhodder cwlwm ar yr edafedd. Yna, os rhwyma'r claf yr edafedd am ei arddwrn chwith, gan roi naw cwlwm arni, iach fydd. I ddistewi plentyn a fyddo'n llefain, rhaid ysgrifennu pennod lled helaeth, ynghydag