Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adnodau eraill, dair gwaith drosodd,-pob llythyren ym mhob gair i fod yn hollol ar wahan ac nid yn rhedeg i'w gilydd. Rhwymer yr ysgrifen wrth gorff y plentyn, a distawa yn ebrwydd.

Ceir rhai swynion ar ffurf "ysgwar," ac wedi eu gwneud i fyny o rifnodau, neu weithiau o lythrennau yn cyfateb i'r ffigurau. Wele enghraifft o'r math yma ar swyn:

4 9 2 d t b
3 5 7 neu j h z
8 1 6 h a w

Sylwer, pa fodd bynnag y bydd i'r ffigurau hyn gael eu hadio at ei gilydd ar draws, neu i lawr, neu i fyny, neu o gongl i gongl-bydd eu cyfanswm yn 15. Cyfrifir hwn yn swyn effeithiol iawn ar adeg genedigaeth. Ceir yn yr ysgwar nesaf enghraifft o'r hyn a elwir yn "ysgwar berffaith,"—pedwar ffigur ym mhob cyfeiriad:

11 14 1 8
5 4 15 10
16 9 6 3
2 7 12 13