Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwelir bod y ffigurau hyn, pa ffordd bynnag y bydd inni eu hadio, yn gwneud cyfanswm 0 34-ar draws, i fyny neu i lawr, neu o gongl i gongl. Rhwymer y swyn hwn wrth gorff dyn yn dioddef o dan y frech wen, a diflanna’r haint yn ebrwydd.

Credir bod adrodd rhai geiriau cysegredig yn effeithiol i iacháu anhwylderau neilltuol. Os adroddir y Bismullah (sef y geiriau a geir uwchben rhai o'r Suras: "Yn enw Duw, y Tosturiol, y Trugarog") ni wna un gwenwyn marwol niwed i ddyn. Gelwir nifer o adnodau’r Koran yn "adnodau amddiffyn a noddfa," ac y maent yn effeithiol i iacháu cant o wahanol afiechydon. Dylid aros ar ddiwedd pob adnod a adroddir a gofyn, "Sut yr wyt ti, O afiechyd?" I wella'r ddannodd adrodder y llythrennau sydd o flaen rhai o'r Suras: "ALMS KHY'S HM'SK," a'r adnodau a ganlyn: "Nid oes Dduw one Efe, Arglwydd yr Orsedd gadarn: Bydd lonydd, O boen, yn enw yr Hwn a ddichon, os mynn, ddistewi y gwyntoedd fel y gorweddant yn llonydd ar gefn y môr: Efe yw'r Hwn sy'n clywed ac yn gwybod." Ffordd gyffredin arall o wella afiechyd ydyw