Tudalen:Y Pennaf Peth.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgrifennu geiriau cysegredig ar fwrdd neu lech neu femrwn, ac yna eu golchi i ffwrdd, ac yfed y dŵr. Bydd rhinwedd y geiriau wedi myned i mewn i'r dŵr.

Gellir defnyddio geiriau cysegredig i ddrygu gelynion, yn gystal ag i iacháu cyfeillion. Os ysgrifennir Sura 30, gan roi'r ysgrifo fewn i gostrel, a'i chuddio oddi mewn i dŷ gelyn, bydd teulu'r gelyn i gyd yn sicr o glafychu. Ysgrifenner Sura 11, adnod 84, ynghydag enw y gelyn y dymunir dial arno, a rhodder yr ysgrif mewn crochan,-pan ddechrau'r dŵr ferwi, dechrau'r gelyn ddioddef.

Gwir na cheir pob Mahometan heddiw yn credu yng ngwerth a gallu'r swynion hyn; gwna'r dosbarth mwyaf goleuedig wawd ohonynt. Edrydd un o'r dosbarth hwn hanes gŵr a honnai bod ganddo swyn anffaeledig i wella'r ddannodd, ond gofalai ddweud wrth bawb a'i prynai y collai'r swyn ei effaith os meddyliai'r dioddefydd am fwnci cyn mynd i'w wely. Yn naturiol iawn, ni fedrai’r dioddefydd beidio â meddwl am fwnci wedi cael y rhybudd. Ceir y lliaws mawr, modd bynnag, mewn gwledydd Mahometan-