Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Siarad a Siaradwyr

A fydded i'r penawd uchod anesmwytho dim ar ein brodyr y pregethwyr a'r darlithwyr, oblegid nid ydym yn bwriadu, ar hyn o bryd beth bynag, son gair am danynt, er, fel y gwêl y darllenydd sylwgar, eu bod hwy "yn gorwedd yn naturiol yn y testyn." Bydd a fyno "ein hychydig sylwadau" â gwrthrychau llawer mwy diymhongar a chyffredin, y rhai a gyfarfyddwn nid yn y pulpud nac yn y neuadd gyhoeddus, eithr yn ein teuluoedd a'n crwydriadau dyddiol. Yn yr ysgrif fer hon, nis gall wn ychwaith ond prin gyffwrdd, llawer llai benderfynu, y pwnc pwysig, pa un ai y meibion ai y merched sydd yn siarad fwyaf a challaf? Ar y pen hwn, gallwn ddyweyd cymaint a hyn, fod y ddau ryw yn siarad gormod yn aml, ac mewn perthynas i gallineb, fod lle i welliant o'r ddwy ochr; ac hwyrach y buasai yn llawn mor briodol galw y dail ysgwydedig hyny