Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad felly y mae pethau yn sefyll. Mae y nifer lliosocaf o'r manteision a gyfrifir sydd yn eiddo y cyfoethog yn ddychymygol, twyllodrus, a chyfnewidiol; felly hefyd o'r ochr arall y mae anfanteision y tlawd, gan mwyaf, yn ddychymygol, eithr yn barhaol. A ddeilliai rhyw les, tybed, o gredu peth fel hyn? Gwnai yn sicr: byddem yn llai bydol ein hysbryd, ac yn fwy boddlon ar ein sefyllfa. Càn lleied o honom ni, y tlodion, sydd yn gallu edrych ar bethau yn eu goleuni priodol, fel y gwnaeth y llwynog hwnw gynt, yr hwn wedi methu cael y grawnwin a ddywedodd eu bod yn surion! Mae un fantais yn eiddo y cyfoethog ag y byddai yn werth ymdrechu er mwyn ei meddu, sef y cyfleusderau sydd ganddo i wneuthur daioni. Mae hon yn fantais wirioneddol nad all y tlawd, dybygid, feddu syniad priodol am y dedwyddwch a arlwya i'w pherchenog. Dedwyddach yw rhoddi na derbyn. Dichon hefyd pan gyll y cyfoethog ei iechyd fod ganddo well gobaith am adferiad na'r tlawd, am y gall alw y meddygon goreu at ei wasanaeth, a chael pobpeth a fyddo yn gymwys i'w amgylchiadau. Ond y mae yr hunan a nodwedda y peth olaf yn cymedroli llawer ar rinwedd y fantais, oddi gerth i ni ganiatau fod son am fantais ar unwaith yn tybio hunanoldeb. Tybir yn gyffredin fod y cyfoethog yn cael mwy o barch na'r tlawd; ond camgymeriad mawr ydyw hyn. Y cyfoeth sydd yn cael parch, ac nid y cyfoethog. Difeddianner dyn o'i gyfoeth, ac fel rheol cyll ei barch yr un amser, Os parheir i'w