Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhai o Fanteision Tlodi

PAN ystyriom mor ychydig ydyw manteision gwirioneddol y cyfoethog o'u cymharu â manteision lliosog y tlawd, mae yn rhyfedd y fath wanc sydd mewn dyn am fod yn berchen eiddo. Anfynych y cyfarfyddir â dyn tlawd sydd felly o ddewisiad; y mae naill ai wedi methu er ceisio, neu ynte wedi bod yn rhy ddifater neu wastraffus i fod yn gyfoethog. Ychydig ydyw nifer y tlodion, os oes rhai o gwbl, na lawenhaent yn fawr pe rhoddid ar ddeall iddynt y byddent yn gyfoethog, gan nad pa mor bell yn y dyfodol a fyddai hyny. Ond prin, dybygid, y mae y rhagolwg am fod yn gyfoethog yn cyfreithloni dyn i lawenhâu yn fawr. Cyfrifir yn gyffredin fod holl fanteision bywyd yn eiddo y cyfoethog, a'r holl anfanteision yn gynysgaeth y tlawd; ond gwna ychydig ystyriaeth ddangos yn ddigon eglur, gallwn feddwl