Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bethma

DRO yn ol cyfarfyddais â boneddwr o Gymro, yr hwn sydd yn ysgolhaig gwych. Gwyddwn dda ei fod yn deall Lladin, Groeg, French, a German. Yn ystod yr ymddyddan a fu rhyngom, gofynais iddo a wyddai efe am air yn un o'r ieithoedd â enwyd mor gynwysfawr a chyfleus a'r gair Cymraeg " bethma." Gwyrodd y boneddwr ei ben—cauodd ei lygaid. Bugnodd ei gôf i'w waelodion, ac yn y man dywedodd Na, ni wn am air mewn unrhyw iaith yr wyf fi yn digwydd bod yn gydnabyddus â hi cyffelyb i'r gair a enwch." Yr oedd ei atebiad yn gymwys fel y disgwyliais iddo fod; ac y mae ymholiadau ac ym. chwiliadau dilynol wedi cadarnhâu y dydiaeth oedd yn fy meddwl nad oes air cyffelyb iddo yn holl ieithoedd y byd! Yn sicr,"bethma" ydyw y gair rhyfeddaf y mae tafod dyn yn ei barablu! Gwna y tro yn enw ar