Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbothol, ac mewn cyfarfodydd eraill, ei waith yn cymeryd gofal llyfrau yr eglwys, a'r ffaith fod ei dŷ erbyn hyn yn gartref i bregethwyr, yn peri iddo weled nid yn unig y posiblrwydd, ond hefyd y tebygolrwydd, y dewisid ef. Er ei fod bob amser yn awyddus i wneyd yr hyn oedd yn ei allu dros achos crefydd, yr oedd yn ystyried fod cymaint o bwysigrwydd ynglŷn â swydd blaenor, ac yn ammheu cymaint am ddiogelwch ei gyflwr ysbrydol, a'i gymhwysder personol i'r gwaith, fel y buasai yn rhoddi unrhyw beth bron i'r eglwys am beidio ei ddewis.

Y gŵr arall oedd yn benderfynol na chymerai ei ddewis ydoedd Noah Rees. Gŵr ieuanc ydoedd ef, eiddil, gwyneblwyd, ac yn cael y gair fod ganddo lawer o lyfrau; ac yr oedd rhai yn myned mor bell ac eithafol a dyweyd fod ganddo gymaint a thri Esboniad ar y Testament Newydd, ac o leiaf ugain o lyfrau eraill ar wahanol bynciau. Er fod y chwedl anhygoel hon yn cael ei hammheu yn fawr ar y cyntaf, ennillasai fwy o gred yn ddiweddarach gan y ffaith ddarfod i'r gwr ieuanc ennill dwy wobr mewn Cyfarfod Cystadleuol; un yn werth hanner coron, a'r llall yn werth tri swllt. Taenid y gair hefyd na byddai efe byth yn myned i'r gwely hyd un ar ddeg o'r gloch ar y nos, a bod ei fam yn cwyno ddarfod i Noah ddyfetha mwy o ganwyllau mewn un flwyddyn nag a ddarfu ei dad yn ystod ei holl oes, a'i bod yn sicr mai y diwedd a fyddai iddo golli ei iechyd. Heblaw fod Noah yn fwy difrifol, ac yn fwy rhwydd ac ufudd na'i gyfoedion pan elwid arno i gymeryd