Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhesymoldeb ac ysgrythyroldeb cais eu hen swyddog parchus. O'r diwedd, pa fodd bynag, llwyddodd yr hen frawd i gael gan yr eglwys anfon at y Cyfarfod Misol "fod anghen arni am ychwaneg o swyddogion."

Yn ngwyneb yr amgylchiad oedd bellach yn ym ddangos yn debyg o gymeryd lle, yr oedd yn yr eglwys dri o ŵyr yn teimlo yn bur wahanol i'w gilydd. Yr oedd un gŵr yn ystyried y dylasai gael ei ddewis; yr oedd un arall yn ofni cael ei ddewis; ac yr oedd un arall yn benderfynol na chymerai ei ddewis. Y gŵr a ystyriai ei hun yn feddiannol ar holl anhebgorion blaenor ydoedd George Rhodric; canys yr oedd yn un o'r aelodau hynaf yn yr eglwys, ac yn un o'r athrawon hynaf yn yr Ysgol Sabbothol; nid oedd ychwaith o ran dawn a gwybodaeth yn ddirmygedig; ac nid allai neb ddyweyd dim yn erbyn ei garitor. Wrth roddi y pethau hyn i gyd at eu gilydd, yr oedd efe yn ystyried y gallai sefyll cymhariaeth â phigion yr eglwys, ac na wnaethid camgymeriad wrth ei ddewis. Heblaw hyn, yr oedd o'r farn fod eisieu "gwaed newydd " yn y swyddogaeth. Nid oedd y class o bregethwyr oedd yn arfer dyfod yno i wasanaethu y peth y dylasai fod; ac yr oedd yn canfod llawer iawn o ddiffyg trefn mewn amryw bethau eraill y buasai efe wedi galw sylw atynt er ys llawer dydd oni buasai ei fod yn ofni i rywrai dybied ei fod yn ceisio " ystwffio ei hun ymlaen." Y gŵr oedd yn ofni cael ei ddewis ydoedd Mr. Jones y shop. Yr oedd y rhan flaenllaw yr oedd wedi ei chymeryd gyda'r plant yn yr Ysgol