Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anfedrusrwydd yn y swydd, ynghyd a'r cyfrifoldeb oedd yn ei gymeryd arno ei hun wrth fod yn unig swyddog mewn eglwys lle yr oedd amryw eraill mawr yr yn gymhwys i'r gwaith. Buasai George Rhodric yn cefnogi â'i holl galon ymbiliau William Thomas am gael ychwaneg o flaenoriaid, oni buasai fod dau rwystr ar ei ffordd. Yn un peth, yr oedd yn credu yn sicr pe yr elid i ddewis, y buasai Mr. Jones y shop yn myned i fewn; ac hefyd yr oedd yn gweled y posiblrwydd iddo ef ei hunan gael ei adael allan; ac yn ngwyneb y ddau beth hyn, penderfynodd fod yn ddystaw ar y pwnc. Ond yr oedd rhyw eneiniad amlwg i'w ganfod ar yr hen frawd Siôr yn ddiweddar; nid oedd mor dueddol i bigo beïau ag y bu, ac yr oedd rhyw ystwythder anarferol yn ei ysbryd, ac arwyddion eglur ei fod yn awyddus i fod ar delerau da â phawb, hyd yn nod â Mr. Jones y shop a'i deulu. Buasai yn anfrawdol yn neb briodoli y cyfnewidiad hwn er gwell ynddo i unrhyw amcanion hunangar ac uchelgeisiol, ac nid oedd neb yn ei groesawu ac yn llawenhâu mwy yn yr olwg arno na'r syml a'r difeddwl—drwg William Thomas.

Fel yr awgrymwyd yn barod, yr oedd nifer lliosocaf yr eglwys yn eithaf parod i bethau aros fel yr oeddynt; ac yr oedd yr hen bobl, yn enwedig yr hen chwiorydd, yn parhâu i ddyweyd na chaent neb tebyg i William Thomas; ond yr oedd yr aelodau callaf a galluocaf, tra yn ofni i'r amgylchiad droi allan yn achlysur cythrwfl ac anghydwelediad yn gorfod cydnabod