Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glustfeiniai yn ddyfal; ac yn y man cododd yn sydyn ar ei thraed, a dywedodd

"William Thomas, deudwch chi wrtho ni pwy i ddewis; y chi ŵyr ore o lawer; ac mi wna i, beth bynag, yn union fel y byddwch chi yn deyd, ac mi wnaiff pawb arall, 'does bosib'. Chawn ni neb gwell na chi na chystal, mi wn, a dydw i yn gweled neb yma cymhwys iawn ond Mr. ——

Amneidiodd William Thomas arni hi i dewi; ac efe a aeth ymlaen mor agos ag y gallwn gofio yn y geiriau canlynol:—"Mae Gwen Rolant bob amser yn dyweyd ei meddwl yn onest, ac y mae genyf ddiolch iddi am feddwl mor dda o honof; ond nid oes neb yn gwybod yn well na mi fy hun mor anghymhwys ydwyf i'r swydd, ac fod yma amryw o'm brodyr â allent ei llenwi yn llawer gwell. (Gwen Rolant yn ysgwyd ei phen mewn anghrediniaeth.) Er nad wyf yn ewyllysio, ac na byddai yn iawn ynof enwi neb, fel yr oedd Gwen Rolant yn gofyn, eto hwyrach, fy nghyfeillion, y goddefwch i mi, o herwydd fy oedran, roddi gair o gynghor i chwi. Gallaf eich sicrhâu nad ydyw swydd blaenor yn un i'w chwen nychu, ond yn unig fel y mae yn gyfleusdra i fod yn fwy gwasanaethgar i Dduw. Yr wyf yn meddwl y gallai pob un o honoch addoli yn well heb fod yn flaenor. Mae y blaenor wrth ei swydd yn gorfod gwrando ar bob cŵyn yn erbyn pawb, ac yn gwybod hefyd pa swm y mae pob aelod yn ei gyfranu at y weinidogaeth, ac at achosion eraill; ac os bydd ambell