Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfrifoldeb yn y brodorion, yn rhoi cyfrwng i ynni a medr y rhai mwyaf blaenllaw eu mynegi eu hunain, ac yn gadael i bob uned mewn talaith fynd rhagddi yn ei ffordd ei hun; ac yn olaf, yn ôl ein dyletswydd foesol a'n cyfrifoldeb fel ymddiriedolwyr dros bobloedd Affrica, y mae cynrychiolwyr Prydain yno yn dysgu'r brodorion i'w llywodraethu eu hunain. Diau mai rhyw ffurf ar weinyddiaeth anuniongyrchol yw'r unig fath o lywodraeth y gellir meddwl amdani ar hyn o bryd mewn rhannau helaeth o'r ymerodraeth drefedigaethol. Ond nid yw'r ffurf hon heb ei mannau gwan, a bu beirniaid digon diffuant eu cydymdeimlad yn barod i'w dangos. Efallai mai'r feirniadaeth bwysicaf ar lywodraeth anuniongyrchol yw nad yw'n darparu digon ar gyfer creu cyfnewidiadau yn y gyfundrefn gan y bobl sydd â mwyaf o ddiddordeb ynddi, sef hynny o'r brodorion a gafodd fanteision addysg. Y mae'r gyfundrefn lwythol wedi ei glanhau o'u drygau gwaethaf; ond y mae perygl i benaethiaid brodorol droi'n swyddogion gormesol sy'n derbyn eu hawdurdod gan y pen-goruchwyliwr Prydeinig yn hytrach nac oddi wrth ddefodau ac arferion y brodorion eu hunain. Hefyd, geilw'r beirniaid sylw at yr anghysondeb sydd mewn ceisio cadw a datblygu sefydliadau politicaidd y llwythau, ac ar yr un pryd eu sefydliadau cymdeithasol ac economaidd yn cael eu tanseilio gan ddylanwad syniadau ac addysg Ewropeaidd. Y mae cymdeithas y llwythau yn newid yn gyflym; ond os meddylia'r swyddogion Prydeinig am ddisgyblu dosbarth llywodraethol o benaethiaid ar gyfer gweinyddiaeth effeithiol-os meddyliant am hynny'n unig, y mae llywodraeth anuniongyrchol yn rhwym o fferru a throi'n adweithiol. Y mae'r pwyntiau beirniadaeth hyn yn rhai pwysig; ond ar y cyfan y mae'n debyg y cytunai'r