Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ogleddol, a'u troi'n rhywbeth tebyg i gorfforaethau llywodraeth leol, a hynny er budd a lles yr holl bobl. A dyna, yn fyr, yw ystyr llywodraeth anuniongyrchol: ymgais i ddefnyddio a datblygu sefydliadau politicaidd sydd eisoes mewn bodolaeth, er mwyn llywodraethu pobloedd a ddarostyngwyd. Yr awdurdodau a fu yn y gorffennol yn cadw trefn a dosbarth ar faterion pob uned o'r gymdeithas frodorol oedd penaethiaid neu gynghorau'r llwyth. Os yw'r trigolion heddiw yn dal i gydnabod yr awdurdodau hyn o hyd, ac i ufuddhau iddynt, fe ddyry Llywodraeth Prydain iddynt bwerau a galluoedd (wedi eu diffinio'n fanwl) i weinyddu'r cyfreithiau, i'w dehongli a hyd yn oed i'w llunio. Fe'u cyfrifir, yn wir, yn rhannau hanfodol o beirianwaith y llywodraeth. Pan fo awdurdod brodorol sy'n dderbyniol gan y bobl, wedi ei sefydlu, y mae'n ddyletswydd ar y swyddog gweinyddol Prydeinig hyfforddi'r gweinyddwyr brodorol yn eu dyletswyddau fel llywodraethwyr eu pobl yn ôl safonau gwareiddiad. Y mae gan y swyddog gweinyddol, wrth gefn iddo, hawliau i ymyrryd—hawliau y bydd yn eu defnyddio, pan fo rhaid, i gywiro cyfeiliorni neu anghyfiawnder, ond bydd yn annog y brodorion i ddatrys cu problemau eu hunain. Gosodir y trethi gan Lywodraeth Ganolog y Diriogaeth, hynny yw, gan y Llywodraethwr Prydeinig, ond penderfynir eu maint a'u casglu gan y Trysorlysoedd Brodorol, a chaniatéir iddynt gadw cyfartaledd arbennig ohonynt—cyfartaledd sy'n amrywio o 25% i 75%—ar gyfer treuliau eu gweinyddiaeth.

Dyna'n fras y sail y gweithredir arni mewn llywodraeth anuniongyrchol. Hwyrach y barna'r mwyafrif o bobl mai hon yw'r unig gyfundrefn bosibl, achos y mae'n ymddangos ar unwaith mor gyfiawn a naturiol; y mae'n meithrin teimlad