Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan Lywodraeth Prydain, ond lle y mae'r weinyddiaeth fewnol yn nwylo'r llywodraethwr brodorol.

Ac yn y dosbarth olaf ceir y tiriogaethau hynny y mae Prydain Fawr yn eu rheoli mewn partneriaeth â gwlad arall, c.e., yr Hebrides Newydd mewn partneriaeth â Ffrainc. A gadael allan y Dominiynau, yr India, a Burma, gwelsom nad oes ond dwy, ymhlith yr hanner cant (fwy neu lai) o drefedigaethau a berthyn i Brydain, yn mwynhau hunan-lywodraeth. Ar y cyfan, er hynny, fe gymerwyd yn ganiataol, ac yn wir mynegwyd hynny'n swyddogol lawer gwaith, yr estynnir hunan-lywodraeth i'r trefedigaethau eraill wrth iddynt ddyfod yn addas i'w defnyddio a phan font yn aeddfed i hynny. "Y mae'n rhaid deall," medd yr Arglwydd Hailey, "mai'r hyn y mae polisi Prydain yn anelu ato ar gyfer dyfodol politicaidd ei threfedigaethau yn Affrica yw hunan-lywodraeth wedi ei seilio ar sefydliadau cynrychioliadol." Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, i ddisgyblu'r brodorion yn y gwaith o lywodraethu, crewyd, o dipyn i beth, y gyfundrefn a adwaenir fel "llywodraeth an-uniongyrchol." Rhoddwyd cynnig arni am y tro cyntaf yn Affrica gan yr Arglwydd Lugard, pan ddigwyddodd ei gael ei hun, ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif hon, yn gynrychiolydd Prydain Fawr, a chanddo'r cwbl o Nigeria Ogleddol ar ei ddwylo. Bid siŵr, y mae concwerwyr eraill, cyn belled yn ôl â'r Normaniaid a'r Rhufeinwyr, a hyd yn oed cyn hynny, yn niffyg gwŷr ac arian, wedi defnyddio sefydliadau'r pobloedd gorchfygedig. Dyna a wnaeth yr Arglwydd Lugard, ond fe wnaeth hefyd rywbeth llawer mwy. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda bagad o swyddogion galluog, daliodd ati i weithio allan gyfundrefn a allai weddnewid y breniniaethau dirywiol a gafodd yn Nigeria