Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwyso, heb ystumio dim arni, i bob math o amgylchiadau. Yn hytrach, y mae'n rhaid wrth ffurfiau mor wahanol i'w gilydd fel mai prin y gellir rhoi amlinelliad ohonynt yn yr ychydig ofod sydd gennym.

Yn gyntaf, y mae gan Burma gyfansoddiad sydd mewn dosbarth ar ei ben ei hun.

Yn ail, gellir ystyried yr unig ddwy drefedigaeth hunan-lywodraethol yn yr Ymerodraeth Brydeinig heddiw, sef Rhodesia Ddeheuol a Ceylon, fel gwledydd sydd ar y ffordd i gyrraedd safle annibynnol y tu mewn i Undeb y Cenhedloedd Prydeinig.

Y trydydd dosbarth, a'r un mwyaf o ddigon o ran rhif, yw'r trefedigaethau gyda llywodraeth gynrychioliadol. Gellir thannu'r rhain yn nifer o ddosbarthiadau llai yn ôl y modd y ffurfir y Corff Deddfroddol ynddynt, rhai ohonynt yn dibynnu'n llwyr ar etholiad, eraill yn cynnwys rhai aelodau oherwydd eu swydd ac eraill trwy enwebiad, gyda hyn a hyn yn cael eu hethol. Ymhob achos (a dyma lle y mae aelodau o'r dosbarth hwn yn gwahaniaethu oddi wrth y trefedigaethau hunan-lywodraethol) y mae'r weinyddiaeth yn atebol i'r Goron, drwy ei chynrychiolydd ym mherson y Llywodraethwr, ac nid yn uniongyrchol i'r Corff Deddf- roddol. Cynnwys y pedwerydd dosbarth y tiriogaethau hynny y mac Prydain Fawr yn dal trwyddedau i'w gwarchod a'u datblygu ar ran Cynghrair y Cenhedloedd. Yn y pumed dosbarth daw'r taleithiau sydd dan nawdd ac amddiffyn Prydain. Y mae gan rai o'r taleithiau hyn (er enghraifft, Sarawak) ymreolaeth fewnol, ond rheolir eu cysylltiadau allanol gan Lywodraeth Prydain; y mae rhai eraill, megis Tonga, lle y rheolir materion mewnol ac allanol