Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unig yn cyfiawnhau cystadleuaeth ac ymdrech, ond hefyd yn dwyn i mewn elfen o greulondeb a oedd yn nodweddiadol o'r holl fudiad. Ar yr un pryd yr oedd yr elfen grefyddol yn rhy gryf i'w hanwybyddu: yn wir, y cenhadon ydoedd y rhai cyntaf i agor llwybr i Affrica Drofannol. Hyd yn oed. yng Nghymru troes diddordeb yng ngwaith y genhadaeth dramor sel ac ymroddiad ein cyndadau yn ddŵr i felin imperialaeth Prydain. Felly, yn chwarter olaf y XIX ganrif, parodd yr egnion hyn, o'u cymryd gyda'i gilydd, i lywodraeth Prydain ymehangu o ychydig orsafoedd masnachu yng ngeneuau'r afon Niger nes cynnwys yr holl diriogaethau enfawr yn y blaendiroedd; arweiniodd i ennill Affrica Ddwyreiniol Brydeinig (Kenya), Uganda a Nyasaland; parodd hefyd i awdurdod Prydain ymledu o'r Cape Colony tua'r gogledd cyn belled â Rhodesia. Yn olaf oll, ar ôl rhyfel 1914-18, ychwanegwyd ymhellach at yr ymerodraeth Brydeinig yn Affrica ac mewn parthau eraill o'r byd, trwy estyn awdurdod Prydain dros rai o'r trefedigaethau a fuasai'n ciddo i'r Almaen gynt (e.g., Tanganyika), i'w llywodraethu o dan nawdd Cynghrair y Cenhedloedd.

II. Y MODD Y LLYWODRAETHIR Y TREFEDIGAETHAU

Y mae trigolion y tiriogaethau eang hyn, a dducpwyd dan faner Prydain i raddau trwy hap a damwain, ac i raddau o fwriad, yn byw ac yn gweithio dan amgylchiadau pur wahanol i'w gilydd ac mewn amrywiol gyflyrau gwareiddiad. Gan hynny, y mae'n dilyn yn naturiol a rhesymol na all fod unrhyw un ffurf bendant o lywodraeth y gellir ei chym-